‘Di o erioed ‘di fy nharo i mewn gwirionedd pa mor bositif ‘di’r eirfa wrth i ni drafod neu gyflwyno’r haul.
Ar lefel syml, ‘di’r haul ddim hyd yn oed at ddant bawb – yn enwedig pan fydd hi’n dod at lefelau paill ac ati sy’n broblem arall yn ei hun.
Mae’r holl beth yn mynd o dan y radar pan fydden ni’n cyflwyno’r tywydd ond mewn gwirionedd, ella bod angen ystyried hyn fel rhan fwy o’r sgwrs.
‘Dyn ni’n byw mewn cyfnod newydd lle mae’r tymhorau bron yn blurred – yn gweddu i mewn i’w gilydd lle nid oes gennym ni bedwar tymor diffiniedig fel yr oedd gennym ni o’r blaen.
Mae’r gaeafau’n gynhesach, a’r hafau’n wlypach, ac ein swydd ni yw cyfleu’r neges, ac nid y ‘pam’.
Mae’n bryder i mi, fodd bynnag, y bydd yr ieithwedd ond yn newid pan y bydd hi’n llawer rhy hwyr. ‘Dyn ni ond yn dechrau profi rhai o sgil-effeithiau’r newid yn ein hinsawdd, a ddim wir yn eu profi i’w llawn maint felly mae’n anoddach i rai gydnabod yr ochr negyddol.