Mi fydd ymddeoliad Allen yn dod fel siom i reolwr Cymru Craig Bellamy, ar ôl llwyddo i’w berswadio i ddychwelyd i’r garfan genedlaethol.
Mi oedd Allen yn wreiddiol wedi ymddeol o bêl-droed rhyngwladol ym mis Chwefror 2023, yn dilyn ymgyrch Cymru yng Nghwpan y Byd 2022.
Mi oedd y gystadleuaeth yn Qatar yn un siomedig i Gymru, wrth iddyn nhw golli eu gemau’n erbyn Lloegr ac Iran, a chael gêm gyfartal yn erbyn yr Unol Daleithiau.
Ond mi oedd ‘na amseroedd hapusach yn Euro 2016 pan lwyddodd Cymru i gyrraedd y rownd gynderfynol. Mi oedd ‘na le yn rownd yr 16 olaf yn Euro 2020 hefyd.
Fe enillodd ei gap cyntaf yn 2009, ar ôl chwarae am y tro cyntaf i dîm cyntaf Abertawe pan yn 16 oed yn 2007.
Yn ei dymor llawn cyntaf yn y tîm fe chwaraeodd ran hollbwysig wrth i’r Elyrch ennill yr Adran Gyntaf, cyn ennill dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr yn 2011.
Fe symudodd i Lerpwl am £15m yn 2012, wedyn ymunodd â Stoke City yn 2016, cyn dychwelyd i Abertawe yn 2022.