Dyn mewn cyflwr difrifol ar ôl digwyddiad yng Nghaerdydd

Dyn mewn cyflwr difrifol ar ôl digwyddiad yng Nghaerdydd

Mae dyn 61 oed mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn dilyn ymosodiad difrifol honedig yng Nghaerdydd.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r tu allan i dafarn The Church Inn ym Mhentre Llaneirwg tua 1yb ddydd Sadwrn.

Mae ditectifs yn chwilio am ddyn 28 oed mewn cysylltiad â’r digwyddiad, ac yn apelio am dystion.

Dywedodd y Ditectif Sarjant Laura Slocombe o Heddlu De Cymru:

“Rydyn ni yn gwybod bod yna bobl yn yr ardal adeg y digwyddiad. Os nad ydyn nhw wedi siarad â swyddogion, rydym yn eu hannog i gysylltu â ni.

“Mae’r dyn sy’n cael ei amau o fod yn gysylltiedig â’r digwyddiad hefyd yn gwybod ein bod yn edrych amdano, ac rydym yn ei annog i fynd i orsaf heddlu.”

Source link

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Scroll to Top