Mae opsiynau yr Eglwys yng Nghymru yn cynnwys caniatáu i’r ddarpariaeth bresennol ddod i ben, ymestyn y trefniadau presennol, neu gyflwyno gwasanaeth ffurfiol o briodas i gyplau o’r un rhyw.
“Mae Esgobion yr Eglwys yng Nghymru wedi cytuno y dylai’r opsiynau sydd ar gael i ni gael eu trafod eto,” medd Archesgob Cymru, Andy John, mewn datganiad.
“Hoffwn bwysleisio mai pwrpas y cyfarfodydd hyn yw gwrando – yn barchus ac yn astud.
“Efallai y bydd yr opsiynau sydd ar gael i ni’n golygu bod y ddarpariaeth a wnaethom yn 2021 yn dod i ben, heb unrhyw ddarpariaeth bellach. Byddai hyn yn golygu na fyddai litwrgi awdurdodedig nac unrhyw gyfleuster i fendithio parau mewn undebau o’r un rhyw.
“Fodd bynnag, gallem hefyd ehangu’r ddarpariaeth hon a pharhau â’n harfer presennol.
“Yn ogystal, mae’n bosibl cynnig gwasanaeth priodas i barau o’r un rhyw, cam a fyddai’n arwyddocaol iawn i’r Eglwys ei wneud.
“Fy ngwahoddiad i chi i gyd yw cymryd rhan yn y broses hon. Mynychwch un o’r sesiynau yn eich ardal leol os gwelwch yn dda, a bydded i Dduw roi gras a heddwch inni i glywed ei lais.”