Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, fod “colli Dafydd yn ergyd drom i wleidyddiaeth Cymru a bywyd sifig ein cenedl”.
“Yn ddi-os roedd Dafydd yn un o ffigyrau mwyaf dylanwadol ac arwyddocaol ei genhedlaeth, a fel Llywydd y Cynulliad cyntaf gwnaeth gyfraniad amhrisiadwy i osod seiliau cadarn i ddatganoli.
“Rydym yn cofio Dafydd fel un a dorrodd dir newydd fel yr Aelod Seneddol ieuengaf yn San Steffan yn 1974 ac aeth ymlaen i arwain Plaid Cymru gydag angerdd ac afiaeth.
“Fe dyfais i fyny efo Dafydd yn ffrind personol a theuluol, a bu’n ddylanwadol arnaf i o fy mlynyddoedd ieuengaf.
“Roedd ei gariad at ein cenedl, ein hiaith, a’n diwylliant yn ddi-wyro.
“Ar ran Plaid Cymru, rwy’n estyn ein cydymdeimladau dwysaf â theulu Dafydd yn eu profedigaeth.”