Yn ôl i Midffîld: Hel atgofion gyda hen wynebau Bryncoch

Yn ôl i Midffîld: Hel atgofion gyda hen wynebau Bryncoch

Eleni mae hi’n 40 mlynedd ers i ni glywed gyntaf am hynt a helynt Mr Picton, Wali Thomas a thîm pêl-droed Bryncoch, ac ym mis Mawrth bydd C’mon Midffîld yn cael ei dathlu mewn noson arbennig gan Archif Ddarlledu Cymru.

Bydd cyfle i ffans y sioe wylio clipiau o’r gyfres deledu boblogaidd a gwrando ar rai o’u hoff gymeriadau yn hel atgofion, a hynny yn yr Oval, cae pêl-droed Caernarfon, sydd dafliad carreg o lle cafodd gemau Bryncoch eu ffilmio ar Cae Top.

John Pierce Jones, Bryn Fôn, Sian Wheldon a Llion Williams – neu Mr Picton, Tecs, Sandra a George – fydd yn “mwydro a malu awyr, a thrio cofio’n ôl i’r hen ddyddiau…” fel yr eglurodd Bryn Fôn ar Raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru.

“‘Dan ni i gyd wedi dewis ein clipiau gorau – y rheiny roedden ni yn eu cofio… Dyna ‘di mhroblem fwya’ i; fydda i’n gweld rhyw glip weithiau pan maen nhw’n ei ail-ddangos o, a ‘sgen i ddim co’ weithiau o fod yn y stafell, neu ar y cae arbennig yna! Mae o i gyd fel tasa fo ‘di mynd yn un blur mawr!”

Source link

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Scroll to Top