Ymgyrch i wneud ‘Y Wal Goch’ yn groesawgar i bawb

Ymgyrch i wneud ‘Y Wal Goch’ yn groesawgar i bawb

Ychwanegodd Macsen Jones, swyddog ymgysylltu â chefnogwyr: “Mae ein Wal Goch yn enwog am ei chefnogaeth anhygoel, yn enwedig ers taith Cymru ym Mhencampwriaeth Euro 2016.

“Ond fel corff llywodraethu, rhaid i ni barhau i ddysgu o brofiadau byw ein cefnogwyr i sicrhau bod pêl-droed yn lle i bawb.

“Trwy Siarad Cymru, rydym yn annog sgyrsiau agored i adeiladu diwylliant diwrnod gêm fwy cynhwysol.

“Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth wella ein systemau adrodd, sy’n ein helpu i nodi a mynd i’r afael â digwyddiadau o wahaniaethu yn well.

“Trwy rannu’r straeon hyn, gallwn barhau i wneud newidiadau cadarnhaol a sicrhau bod pob cefnogwr Cymru yn teimlo’n ddiogel ac wedi’i gefnogi.”

Bydd penodau eraill yn y gyfres yn rhoi llwyfan i gefnogwyr mewn cymdeithas ehangach, gan drafod pynciau eraill sy’n gallu cael effaith ar brofiadau cefnogwyr, gan gynnwys hiliaeth, iechyd meddwl a’r gymuned LHDTC+.

Source link

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Scroll to Top