Mae Sioned Williams AS hefyd o’r farn y dylid ystyried rhoi arwydd sy’n tynnu sylw at bobl nodedig sydd wedi cael eu geni yng Ngwauncaegurwen ac yn dweud y gallai gwneud hynny ddenu ymwelwyr i’r ardal.
Mae Cyngor Sir Castell-nedd Port Talbot wedi ysgrifennu yn ôl at Ms Williams i ddweud fod hyn yn uchel ar eu rhestr agenda ar gyfer y cyfarfod nesaf gyda’r cynghorwyr sir.
Mae Huw Llywelyn Davies yn amheus a ddylid troi’r pentref yn gyrchfan i dwristiaid, ond mae’n credu y byddai gosod plac ar ambell wal ble ganwyd rhai o’r bobl nodedig yn syniad da.
“Falle y buasai selogion mawr yn hoffi dod i weld ble oedd cartref pobl fel Gareth.
“O’n i’n byw lan ar hewl Coldra, ac fe symudodd teulu Gareth pan oedd y bechgyn yn ifanc i ddod lan fan honno. Felly ni oedd yno gyntaf, ond Gareth sydd wedi dod â’r enwogrwydd i’r pentref wrth gwrs.
“Ond, yn bendant mae ishe i bobl wybod ble maen nhw pan maen nhw’n cyrraedd pentref sydd ag ychydig bach o hanes iddo fe,” ychwanegodd.