Mae Sadé Asker, 30, o Gaerdydd yn byw gyda chrydcymalau gwynegol (rheumatoid arthritis), ac mae hi’n gyfarwydd iawn gyda theimlo’n waeth dros y gaeaf.
“Gaeaf y llynedd ges i flare-up gwael iawn. Roedd rhaid i fi fynd i’r ysbyty i gael pigiadau,” meddai.
“Fi yn ffeindio bod y tywydd oer yn cael tipyn go lew o effaith arna i.
“Mae’n gwneud fi’n achy iawn, ond mae hefyd yn gwneud fi ddim eisiau mynd allan ac ymarfer corff, sydd ddim yn beth da i fi chwaith.
“Fi mewn cryn dipyn o boen. Fel arfer mae o gwmpas fy nwylo, a fi’n cael e’n eitha’ aml pan yn torri bwyd neu’n agor pethau.
“Mae’r cymalau yn fy mysedd a fy nwrn yn mynd yn stiff, a fi yn ffeindio bod yr oerfel yn gwneud e hyd yn oed yn waeth.”
Mae Sadé yn gweithio i’r National Rheumatoid Arthritis Society, sy’n cynghori pobl i geisio cadw’n gynnes yn y gaeaf er mwyn gofalu am eu cymalau.