Y freuddwyd o greu ‘Cymru fach’ dros y môr yn 1616

Y freuddwyd o greu ‘Cymru fach’ dros y môr yn 1616

Ganrif ar ôl i freuddwyd William Vaughan am drefedigaeth yno fynd i ebargofiant fe hwyliodd Cymro arall i harbwr Trepassey, y môr leidr Barti Ddu o Gasnewydd Bach, Sir Benfro.

Gyda’i faneri du yn chwifio a’i enw drwg yn ei ragflaenu cododd fraw ar holl gapteiniaid y llongau masnach a’r cychod pysgota oedd wedi angori yno a chymryd rheolaeth o’r harbwr a phopeth oedd ynddi yn ddidrafferth cyn dwyn un o’r llongau a hwylio i ffwrdd.

Oddi yma hefyd y cychwynnodd Amelia Earhart ei thaith gyntaf mewn awyren dros yr Iwerydd yn 1928 gan lanio, fel mae’n digwydd, ym Mhorth Tywyn sydd ond tua 10 milltir o fan claddu William Vaughan yn Llangyndeyrn.

Heb bresenoldeb yn y drefedigaeth newydd, collodd William Vaughan ei afael ar ei diroedd i gyd yn Newfoundland yn y diwedd a diflannodd yr hanes i niwl amser.

Daeth straeon am ymdrechion i ddechrau ‘Cymru newydd’ yng ngogledd America, Brasil a Phatagonia yn hanesion llawer mwy cyfarwydd.

Ond yn 2013 cafodd ymddiriedolaeth o’r enw The Sir William Vaughan Trust ei sefydlu yn Newfoundland i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ymdrechon Sir William Vaughan yn natblygiad cynnar y dalaith sydd fel arfer yn cael ei chysylltu â mudwyr o Iwerddon, yr Alban, Lloegr a Ffrainc.

Mae posibilrwydd y gallai mwy o wybodaeth am y bennod yma yn hanes Cymru ddod i’r fei eto ac y cawn wybod pwy oedd y Cymry a hwyliodd dros yr Iwerydd i Newfoundland yn 1617 tybed?

Source link

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Scroll to Top