Ifor sy’n egluro sut daeth ar draws y ffilm am y tro cyntaf: “O’n i’n ffilimio rhyw raglen ddogfen ym Mlaenau Ffestiniog a nes i ddigwydd taro ar ddwy oedd yn gysylltiedig â chwmni John Ellis Williams.
“John Ellis Williams oedd un o gyfarwyddwyr y ffilm efo Ifan ab Owen Edwards ac aelodau o’i gwmni o oedd yr actorion, a felly ges i fy hudo gan y peth.
“Mae’n anhygoel i feddwl fod dau mor ddibrofiad wedi mynd ati a neud rwbath sydd ar sawl lefel yn llwyddiannus, ac ar lefelau eraill, ella ddim mor llwyddiannus.”
Ac roedd swm sylweddol o bres tu ôl i’r cynhyrchiad. Cost y ffilm oedd £2,900 – swm a ddychrynodd J. Ellis Williams, ond neges Ifan iddo oedd, ‘Da chi, peidiwch â phoeni am y pres. Ymlaen â’r gwaith’.
Prynodd Ifan gamera, gwerth can punt o ffilm a dau daflunydd ag arian a roddwyd gan J.M. Howell, Aberdyfi, un o noddwyr hael yr Urdd yn nyddiau cynnar y mudiad.
“Roedd ganddo fo hyd yn oed fan Morris 8 ail law er mwyn creu rhyw fath o sinema deithiol; mynd â’r ffilm o le i le o gwmpas Cymru,” eglura Ifor.
“Gafodd o’r pres i ‘neud y ffilm ym mis Chwefror, erbyn diwadd mis Mawrth oedd John Ellis Williams wedi ‘neud y sgript iddo fo. Erbyn diwadd mis Ebrill oedd o ‘di cychwyn ffilmio ac ym mis Hydref gafodd y peth ei phremiêr cyntaf ym Mlaenau Ffestiniog, felly mae’n rhaid i ni edmygu eu hegni nhw os nad dim byd arall.”