Aeth ati i sefydlu elusen Love Hope Strength, gan annog pobl i gofrestru eu bod yn fodlon bod yn rhoddi mêr esgyrn.
Fe drefnodd berfformiadau er budd yr elusen, gan gynnwys un ar gopa’r Wyddfa.
Yn 2007 fe deithiodd gyda cherddorion, goroeswyr canser a chefnogwyr er mwyn perfformio gig ar lethrau Everest.
Er iddyn nhw deithio tipyn fel band, roedd gan The Alarm gyswllt cryf gyda Chymru, ac roedd Peters yn medru byw bywyd tawel yng ngogledd Cymru.
Fe wnaeth y band ryddhau fersiwn Gymraeg o’u halbwm 1989, Change, a’i alw’n Newid.
Mae’r band wedi gwerthu mwy na phum miliwn o albymau ac wedi cael 16 sengl yn siartiau 50 uchaf y DU.