Warren Gatland i aros fel rheolwr rygbi Cymru i’r Chwe Gwlad

Warren Gatland i aros fel rheolwr rygbi Cymru i’r Chwe Gwlad

Ychwanegodd Tierney bod bwrdd URC wedi ystyried newidiadau eraill, ond eu bod wedi dod i’r canlyniad mai’r penderfyniad gorau oedd herio Gatland i wella’r sefyllfa ar y cae.

“Rydym wedi asesu mewn manylder y cynllunio a’r paratoi, y ffactorau sy’n gyfrifoldeb i’r hyfforddwyr yn ogystal â’r diwylliant o fewn y tîm, cryfder meddyliol y chwaraewyr, eu profiadau hyd yn hyn, a’u teimladau ynglŷn â’r cyfeiriad mae’r garfan yn mynd.”

“Rydym wedi cynnwys arbenigedd a barn o ystod eang o ffynonellau gwybodus ac uchel eu parch, ac rydym wedi gweld beth mae cefnogwyr a sylwebyddion wedi dweud, nad ydym yn perfformio i’n potensial ar hyn o bryd.”

Bydd rhai argymhellion allweddol o’r ymchwiliad yn cael eu gweithredu yn syth, gan gynnwys ailystyried rhai o’r staff o amgylch Gatland cyn i’r Chwe Gwlad gychwyn.

Hefyd, bydd Tierney yn ymchwilio i’r strwythur o fewn URC, ac yn gwneud newidiadau ar ôl i Walker ymddiswyddo.

Bydd Geraint John yn cymryd dyletswyddau Walker am y tymor byr, a bwriad i benodi cyfarwyddwr rygbi newydd yn 2025.

Bydd panel cynghori newydd yn cael ei benodi, a bydd yn weithredol yn 2025 gyda chyn-chwaraewyr yn rhan ohono.

Source link

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Scroll to Top