Warren Gatland i adael ei rôl fel prif hyfforddwr Cymru

Warren Gatland i adael ei rôl fel prif hyfforddwr Cymru

Dechreuodd ei ail gyfnod fel prif hyfforddwr ym mis Rhagfyr 2022 yn dilyn ymadawiad Wayne Pivac.

Roedd yn etifeddu tîm oedd ond wedi ennill tair o’r 12 gêm o dan Pivac, gan gynnwys colli i’r Eidal a Georgia.

Wrth i nifer o chwaraewyr profiadol oedd wedi chwarae rhan flaenllaw yn ystod ei gyfnod cyntaf wrth y llyw ymddeol, roedd angen iddo droi at y genhedlaeth nesaf.

Ond er gwaethaf perfformiad calonogol yng Nghwpan Rygbi’r Byd 2023, doedd Gatland methu ail-greu’r llwyddiant a welwyd yn ystod ei gyfnod cyntaf.

O’r 26 gêm brawf y mae Cymru wedi eu chwarae yn ystod ail gyfnod Gatland, mae Cymru wedi colli 20 ac wedi ennill chwech o’r gemau hynny.

Mae’r rhediad presennol o 14 colled o’r bron yn cynnwys dwy gêm yn erbyn yr Eidal a gêm gartref yn erbyn Fiji, ac mae Cymru wedi disgyn i’r 12fed safle yn netholion y byd.

Wrth edrych ar record Gatland fel prif hyfforddwr Cymru yn ei gyfanrwydd, mae wedi bod wrth y llyw ar gyfer 151 o gemau – sy’n cynnwys 76 buddugoliaeth, 73 colled a dwy gêm gyfartal.

Source link

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Scroll to Top