Tywydd sych: Annog pobl ‘i feddwl am eu defnydd o ddŵr’

Tywydd sych: Annog pobl ‘i feddwl am eu defnydd o ddŵr’

Dywedodd cyfarwyddwr gwasanaethau dŵr cwmni Dŵr Cymru, Marc Davies, bod y tywydd “wedi bod yn eithriadol o sych ar ddechrau’r flwyddyn”.

“Mis Mawrth eleni oedd y pedwerydd sycha’ ni ‘di gweld ar record a ni ‘di gweld y diwrnod poethaf ni ‘di gweld ar ddechrau mis Mai.

“Ni’n gofyn i gwsmeriaid i fod yn ofalus o faint o ddŵr maen nhw’n defnyddio – defnyddio faint o ddŵr maen nhw angen wrth gwrs, ond i beidio gwastraffu dŵr.”

Ychwanegodd eu bod nhw’n annog cwsmeriaid i “ddiffodd y dŵr wrth lanhau dannedd a gwneud yn siŵr bod y peiriant golchi dillad yn llawn wrth ei ddefnyddio”.

“Ac os oes rhywun yn defnyddio eu paddling pools dros y penwythnos, gwneud yn siŵr bod nhw’n cadw’r dŵr a’i ddefnyddio yn yr ardd,” ychwanegodd.

Source link

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Scroll to Top