Troi hen chwarel yn atyniad tanddwr ‘arloesol’

Troi hen chwarel yn atyniad tanddwr ‘arloesol’

Mae’r cwmni’n dweud bydd yr atyniad yn creu 15 o swyddi, yn ogystal â phrentisiaethau i bobl ifanc, ac maen nhw’n gobeithio agor dros yr haf.

Yn ôl yr economegydd o Brifysgol Bangor, Dr Rhys ap Gwilym, sydd hefyd yn byw ger y chwarel, mae datblygiadau fel yr un arfaethedig yn Llanberis, yn rhywbeth sydd ei angen i sicrhau hwb ariannol o’r diwydiant ymwelwyr.

“‘Da ni ddim yn brin o ymwelwyr yn yr ardal…’Da ni wedi gweld ers y dynodiad Unesco, bod ‘na lawer fwy o bobl yn dod ac ymweld â Chwarel Dinorwig,” meddai.

“Y broblem ydy bod y rhan fwya ohonyn nhw, siŵr o fod yn gyrru draw am y dydd, cerdded am ychydig oriau, ac wedyn gyrru ffwrdd heb wneud unrhyw fath o gyfraniad economaidd i’r ardal.

“Dyma ffordd o ddefnyddio’r chwarel, nid dim ond i ddenu pobl yma, ond i ddenu nhw yma i wneud rhyw fath o gyfraniad economegol i’r ardal hefyd.

“Yn amlwg ‘mond un atyniad bach ydy hwn – ‘da ni angen gweld nifer ohonyn nhw, a ‘da ni angen bod yn fwy parod i ofyn i ymwelwyr i wneud y fath gyfraniad.”

Source link

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Scroll to Top