Mae’r record ar gyfer y dechrau poethaf i fis Mai yng Nghymru wedi ei dorri, gyda disgwyl i’r tywydd braf barhau dros benwythnos Gŵyl y Banc.
Parc Biwt yng Nghaerdydd oedd y man poethaf yng Nghymru ddydd Iau, lle cafodd tymheredd o 27.6C ei gofnodi, tra bod 23.8C wedi ei gofnodi yn Aberystwyth.
Y record flaenorol ar gyfer 1 Mai oedd 26.9C ym Mhen-y-Ffridd, Conwy ym 1990.
Mae Dŵr Cymru wedi annog cwsmeriaid i ystyried eu defnydd o ddŵr gan fod lefel y glaw ar hyn o bryd tua 30% yn llai o’i gymharu â chyfnod yn 2022 pan wynebodd rhai ardaloedd waharddiad ar y defnydd o bibellau dŵr.
Trawsgoed yng Ngheredigion oedd y man poethaf ym Mhrydain ddydd Mawrth, gyda thymheredd o 24.9C (76.8F) yn cael ei gofnodi yno.
Mae disgwyl i dymereddau ostwng yn raddol dros y penwythnos i rhwng 12-17C ddydd Llun, sy’n debycach i’r hyn sydd i’w ddisgwyl ar gyfer yr adeg hon o’r flwyddyn.