“Mae’n broblem enfawr ac mae’n rhwystredig iawn,” meddai Frankie Hobro, perchennog a chyfarwyddwr Sŵ Môr Môn.
“Tydi anifeiliaid ddim yn deall gwleidyddiaeth, dydyn nhw ddim yn deall ffiniau.”
Mae crwbanod Kemp’s Ridley yn cael eu hystyried fel rhywogaeth mewn perygl difrifol. Y gred yw mai dim ond tua 7,000 o fenywod sy’n bodoli yn y Gwlff.
Rhossi yw’r ail o’r math yma o grwban i gael ei achub gan y sw môr, gyda’r cyntaf – Tally – wedi’i ddanfon yn ôl i Texas cyn cael ei ryddhau yn ôl i’r môr yn 2023.
“Roedden ni wedi dechrau ar gynllun dychwelyd gwirioneddol lwyddiannus, meddai cyfarwyddwr y sŵ.
“O’n i’n meddwl bod ni efo system mewn lle oedd yn gweithio’n dda.
“Mae’n rhwystredig iawn, bod hynny wedi cael ei effeithio oherwydd gwleidyddiaeth, a’r math hwn o benderfyniad ysgubol sy’n cael effaith bellgyrhaeddol y tu hwnt i’r Unol Daleithiau.”