Teulu o Gymru yn ’emosiynol iawn’ ar ôl rhyddhau gwystl Israelaidd

Teulu o Gymru yn ’emosiynol iawn’ ar ôl rhyddhau gwystl Israelaidd

Cafodd Mr Sharabi, a hefyd Or Levy ac Ohad Ben Ami, eu rhyddhau wedi’r cadoediad rhwng Hamas ac Israel, a ddaeth i rym ar 19 Ionawr.

Mae’r cytundeb yn gweld cyfanswm o 33 o wystlon 7 Hydref yn cael eu rhyddhau mewn trosglwyddiadau wythnosol gyda 1,900 o Balesteiniaid yn cael eu rhyddhau o garchardai Israel.

Mae Israel yn rhyddhau 183 o garcharorion Palesteinaidd ddydd Sadwrn.

Ar 7 Hydref fe laddodd Hamas tua 1,200 o bobl, gan gymryd 251 o wystlon yn eu hymosodiad ar Israel.

Mae o leiaf 47,500 o Balesteiniaid wedi’u lladd yn ymosodiad Israel, yn ôl gweinidogaeth iechyd Gaza sy’n cael ei rhedeg gan Hamas.

Mae tua dwy ran o dair o adeiladau Gaza wedi cael eu difrodi neu eu dinistrio gan ymosodiadau Israel, meddai’r Cenhedloedd Unedig.

Source link

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Scroll to Top