Teulu Cymreig yr arweinydd cwlt byd-enwog Jim Jones

Teulu Cymreig yr arweinydd cwlt byd-enwog Jim Jones

Yn dilyn llofruddiaeth Ryan fe orchmynnodd Jones i aelodau o’r cwlt ladd eu hunain, gan ei alw’n ‘hunanladdiad chwyldroadol’.

Fe ddosbarthodd Jones Kool-aid (diod ffrwyth yn debyg i squash) i’w ddilynwyr, a oedd hefyd yn cynnwys cyanide, valium, a nifer o dawelyddion. Fe yfodd nifer o’r aelodau’r diod o’u gwirfodd, ond mae’n debyg fod rhai eraill oedd ddim yn gwybod eu bod yn yfed gwenwyn.

Cafodd y babannod eu lladd yn gyntaf, drwy eu chwistrellu gyda’r gwenwyn, ac yna’r oedolion. O’r 909 fu farw roedd 300 yn 17 neu iau, ac fe laddwyd yr anifeiliaid yno hefyd, gan gynnwys y cŵn a’r cathod.

Yn dilyn parodrwydd cannoedd o aelodau i yfed y gwenwyn daw’r dywediad “Drinking the Kool-Aid” – sy’n dynodi bod rhywun yn credu mewn syniad cwltaidd i’r eithaf.

O’r 1,005 a oedd yn byw yn Jonestown fe oroesodd llai na 100 – roedd rhain yn cynnwys aelodau a oedd digwydd bod allan yn Georgetown y diwrnod hwnnw, neu eraill a oedd wedi penderfynu ceisio dianc.

Cafodd corff Jim Jones ei ddarganfod ymysg y meirw; mae’n debyg ei fod wedi saethu ei hun. Lladdwyd gwraig Jim, Marcelina, drwy yfed y ddiod wenwynig, yn ogystal â’i gariadon, Carolyn Moore Layton a Maria Katsaris.

Source link

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Scroll to Top