Mae difrod sylweddol wedi cael ei achos i dafarn ym Mhen Llŷn yn dilyn tân dros nos.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, fe wnaeth tafarn Glyn y Weddw ym mhentref Llanbedrog gyhoeddi eu bod wedi gorfod cau o ganlyniad i’r tân.
Mae lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos difrod sylweddol i du mewn yr adeilad, ac mae’r to wedi’i ddifrodi hefyd.
Cafodd y gwasanaeth tân eu galw i’r digwyddiad ychydig cyn 01:00 fore Gwener, ac fe gafodd pedwar criw o ddiffoddwyr eu gyrru yno i geisio diffodd y fflamau.
Does neb wedi eu hanafu yn y digwyddiad.