Mae tân gwair mawr ger Trawsfynydd yng Ngwynedd yn parhau i losgi ar ôl cynnau’n wreiddiol nos Sul.
Mae’r tân yn llosgi glaswellt ac eithin mewn ardal rhwng Bronaber a Thrawsfynydd, meddai Gwasanaeth Tân ac Achub y Gogledd.
Cafodd y gwasanaeth tân eu galw gyntaf am 22:18 nos Sul, ac erbyn hanner nos neithiwr roedd y fflamau’n 500 metr o led ac wedi llosgi ar draws sawl hectar o dir.
Roedd diffoddwyr yn monitro’r tân dros nos, ac mae disgwyl i ddau uwch swyddog asesu’r sefyllfa yno fore Mawrth.
Dywedodd y gwasanaeth tân eu bod yn gobeithio y bydd y fflamau’n dechrau diffodd yn ystod dydd Mawrth, ond bydd mwy o griwiau tân yn cael eu galw yno os oes angen.