Mae’r Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca Davies, yn goruchwylio’r gwaith, ac yn dweud bod newid yn bosibl.
“Rydym yn genedl gymharol fach ond yn un deinamig iawn a all feddwl yn wahanol am y pethau hyn,” meddai.
“Felly dyna’r her i’r grŵp hwn. Mae angen llai o bolareiddio, mwy o ymgysylltiad ystyrlon, ac a dweud y gwir, mae angen i ddinasyddion Cymru o bob oed ac o bob cefndir deimlo bod ganddyn nhw ran i’w chwarae wrth ddylanwadu ar bopeth o’u cwmpas a’u cymunedau.”
Wrth ymdrin â’r cwestiwn o ddiffyg hyder y cyhoedd mewn gwleidyddion i wneud yr hyn maen nhw wedi addo ei wneud, ychwanegodd: “Rwy’n credu bod angen i wleidyddion, pan gewn nhw eu hethol ar y cylch etholiadol (electoral cycle), gyflwyno rhaglen ar gyfer llywodraeth, ac yna mynd ati i’w chyflawni… ac yna mae angen i ni ddweud wrth bobl ein bod wedi gwneud hynny hefyd.”
Mae’r grŵp yn bwriadu adrodd yn ôl cyn etholiad y Senedd fis Mai nesaf, gyda’r gobaith bod amser wedyn i’r pleidiau gwleidyddol ystyried yr hyn y mae’n ei argymell.