‘Sioc’ gweld siarc yn mynd i drafferth ger pier Aberystwyth

‘Sioc’ gweld siarc yn mynd i drafferth ger pier Aberystwyth

Dywedodd llefarydd ar ran Gwylwyr y Glannau eu bod yn credu bod y siarc wedi treulio nifer o oriau – o bosib tua pedair awr yn nofio mewn dŵr bas yn y bae.

Fe gawson nhw nifer o alwadau gan aelodau o’r cyhoedd oedd yn bryderus, ac fe aethon nhw i’r ardal i sicrhau diogelwch y cyhoedd.

Maen ymddangos i’r siarc nofio i ddyfroedd dyfnach yn y pen draw.

Dywedodd y tîm Achub Bywyd Morol iddyn nhw gael eu galw i roi cyngor i’r cyhoedd ac i reoli’r dorf oedd yno.

“Roedd hi’n ymddangos o liw coch asgell cefn y siarc ei fod mewn trafferth ac yn methu cael ocsigen yn iawn,” meddai llefarydd.

“Fe wnaeth barhau i nofio yn agos i’r lan am nifer o oriau, gan ddenu torf fawr o bobl.”

Source link

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Scroll to Top