Cafwyd Noel yn euog ar gam o ddwyn £48,000 o arian y swyddfa bost yn Llys y Goron Caernarfon ar 13 Tachwedd 13 2006, dros flwyddyn ar ôl ymweliad yr heddlu ym mis Hydref 2005.
Chafodd Sian ddim ffarwelio a’i thad cyn y cafodd ei hebrwng i gell:
“Y peth ola oedd geiriau’r barnwr, ‘take him down’. Dwi’n cofio nhw’n mynd â ni i stafall fach wedyn a dyma fi’n gofyn i Mr Wyn Lloyd Jones, [y cyfreithiwr] os gawn ni fel teulu jest mynd i ddeud ta-ta. Doedd ganddon ni fel teulu ddim clem sut oedd y system yn gweithio. ‘Mae ‘na ddiogelwch’ medda fo, ‘fedrwch chi’m mynd’.”
Bu Noel yng ngharchar Walton am wythnos cyn cael ei symud i garchar Kirkham ger Blackpool. Ond doedd gan Sian, ei mam Eira, na’i brodyr Arfon ac Edwin ddim syniad i le anfonwyd Noel.
“Doedd gynnon ni ddim clem. Dwi’m yn gwbod sawl gwaith ffonish i’r twrna i ofyn lle oedd o.
“Oedd hi’n gyfnod ansicr fel oedd o’n deud. Oedd Dad yn y carchar ond mi oeddan ni’n teimlo fel bo’ ni mewn carchar hefyd.
“Adra roedd pobl yn gweiddi, tynnu eich gwallt chi, poeri arnach chi. Fe ddigwyddodd hynny i fi. Oedd hynny’n brifo.
“Ac wrth gwrs, roedd y Daily Post efo ei lun o yn ei handcuffs yn mynd i mewn. Fo yn mynd i mewn i’r fan. Ond faswn i heb fod yn prowdiach ohono fo, natho ddim rhoi ei ben i lawr, mi sbiodd o i fyw y camera.
“Gymerodd hi chwe wythnos tan gathon ni’r visiting order i’n nhŷ fi yn Malltraeth i ddeutha ni lle oedd o, a wedyn aeth Arfon fy mrawd a Mam a fi, y tri ohonan ni i’w weld o am y tro cynta.”