Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn newydd am eira a rhew i’r rhan helaeth o Gymru.
Mae’r rhybudd yn dod i rym am 17:00 ddydd Llun tan 10:00 fore Mawrth.
Yn ôl arbenigwyr, mae disgwyl hyd at 2cm o eira yn gyffredinol ac maen nhw’n credu y gallai hyd at 5cm o eira syrthio ar dir uchel,
Mae’r rhybudd yn berthnasol i bob sir yng Nghymru, heblaw am Ynys Môn.
Yng ngogledd Cymru, mae rhybudd melyn am eira a rhew ers y penwythnos mewn grym tan 12:00 ddydd Llun.
Mae nifer o ysgolion a ffyrdd wedi cau – yn bennaf ar draws y gogledd ddwyrain – oherwydd y tywydd garw.