Rhybudd dros e-sgwteri fel anrhegion allai dorri’r gyfraith

Rhybudd dros e-sgwteri fel anrhegion allai dorri’r gyfraith

Mae’r cerbydau yma wedi dod yn fwy poblogaidd dros y pedair blynedd ddiwethaf – ond yn ôl yr arbenigwr ar ddiogelwch ffyrdd, Tom Jones, maen hen bryd i’r gyfraith ddal lan gyda’r dechnoleg.

“Cafodd 11 o ddefnyddwyr sgwteri trydan eu lladd yn 2022 yn ôl yr adran drafnidiaeth. Cafodd 1,500 o bobl eu hanafu.

“Felly mae damweiniau yn digwydd yn defnyddio’r cerbydau yma ar y ffyrdd.

“Dwi’n synnu nad oes ‘na ddeddfwriaeth newydd wedi dod yn gyflymach. Dwi’n meddwl y dylai fod ‘na agwedd fwy llym. Ond dwi’n credu bod yr heddlu yn meddwl byddai yna newid [yn y gyfraith] yn gynt.”

Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth y DU eu bod yn gweithio gyda chydweithwyr i fynd i’r afael â materion yn ymwneud ag e-sgwteri anghyfreithlon.

“Mae e-sgwteri preifat yn dal yn anghyfreithlon i’w defnyddio ar ffyrdd cyhoeddus a gall y rhai sy’n torri’r gyfraith wynebu dirwyon ac erlyniad troseddol,” meddai llefarydd.

“Dim ond mewn ardaloedd treialu sy’n cael eu rhedeg gan y Llywodraeth y mae modd defnyddio e-sgwteri rhent.”

Source link

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Scroll to Top