‘Rhy syml gwahardd plant sy’n cario cyllyll’ – prif arolygydd Estyn

‘Rhy syml gwahardd plant sy’n cario cyllyll’ – prif arolygydd Estyn

Yn ymateb i’r sylwadau hynny dywedodd Neil Butler o undeb addysg NASUWT bod gwahardd disgyblion sy’n cario cyllyll yn allweddol o ran sicrhau diogelwch.

Dywedodd ei fod yn cytuno bod angen deall pam y byddai plentyn yn dod â chyllell i’r ysgol, ond mai’r flaenoriaeth yw cadw disgyblion ac athrawon yn ddiogel, sy’n gofyn am waharddiad ar unwaith.

“Dyw hynny ddim yn eu heithrio o gymdeithas – mae hynny’n nonsens,” meddai.

Ychwanegodd na fyddai’n golygu na fyddai’r plentyn yn cael addysg, ond yn hytrach gallai chwilio am addysg mewn “lleoliad mwy addas” nac ysgol brif ffrwd tra’n cael ei asesu.

“Os yw’r plentyn sydd wedi cario cyllell i’r ysgol yn aros yno tra bod y gweithwyr seicolegol yn eu hasesu, maen nhw’n parhau i fod yn berygl i blant eraill yn yr ysgol,” meddai.

“Mae mor syml â hynny mewn gwirionedd. Rhaid bod yn glir mai dyna’r canlyniad.

“Mae’n rhaid i ni roi diwedd ar hyn. Mae’n rhaid i ni atal hyn nawr ac mae hynny’n golygu gwaharddiadau clir ar gyfer y math yna o ymddygiad.”

Source link

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Scroll to Top