Mae cryfder a chodi pwysau wedi newid fy mywyd i mewn cymaint o ffyrdd, ac felly ro’n i’n awyddus i rannu hynny gyda phobl eraill – yn enwedig merched – ar ôl dysgu am yr holl fuddion sy’ ‘na o weithio’r cyhyrau a chryfhau.
Rydan ni’n colli canran o’n màs cyhyrol bob blwyddyn ar ôl troi’n 30 oed, a dyna beth sy’n gallu ein gwneud yn wanach ac yn fwy musgrell wrth i ni heneiddio.
Mae esgyrn brau hefyd yn medru bod yn broblem inni yn ein henaint ac mae llwytho pwysau ar yr esgyrn yn eu gorfodi i gryfhau. Gall hyn atal pobl hŷn rhag cael codwm, a rhag datblygu osteoporosis.
Mae magu cryfder cyhyrol yn golygu ein bod yn fwy tebygol o gadw’n hannibyniaeth wrth fynd i oed.
Mae buddion arbennig i ferched wrth fynd yn hŷn ac wrth wynebu heriau’r menopôs, ac mae ‘na bob math o fanteision iechyd meddwl hefyd.