Mae Huw Evans, sy’n 35 oed ac yn byw a gweithio yn y pentref gyda’i deulu, yn dweud bod yr ysgol yn “cadw’r pentref yn fyw”.
“Mae just yn neis cadw’r plant i fynd i’r ysgol yn lle maen nhw’n byw,” meddai.
Dywedodd hefyd ei fod yn “biti”, ac “mae’n neud chi’n bach yn flin bod o’n cau”.
Mae’r 25 o ddisgyblion yn cael eu rhannu rhwng dwy ystafell ddosbarth ar hyn o bryd.
Drwy eu hanfon i ysgolion mwy o faint, cyfagos, mi fydd dewis ehangach o weithgareddau addysgol ac allgyrsiol i’r plant, yn ôl y cyngor.