Porthladd Caergybi ar gau tan o leiaf ganol Ionawr

Porthladd Caergybi ar gau tan o leiaf ganol Ionawr

“Mae’n effeithio ar ein gwaith yng Nghaergybi yn syth – mae’n mynd i effeithio ar economïau Cymru ac Iwerddon, achos fydd nwyddau ddim yn symud.

“Does neb i weld â datrysiad a dydy Llywodraeth Iwerddon na Llywodraeth Cymru heb gynnig unrhyw gynnydd mewn capasiti na dim byd.

“Pan ychwanegwch tua 100,000 o bobl eisiau dod adref am y Nadolig yn eu ceir, mae’n mynd i fod yn hunllef lwyr am yr wythnos nesaf ac o edrych tua mis Ionawr fe fydd yr un fath, os nad gwaeth.”

Doedd cyhoeddiad ddydd Mawrth “ddim yn syndod” i Ger Hyland, Llywydd Cymdeithas Cludwyr Ffordd Iwerddon.

Mae’r sefyllfa, meddai, yn “niweidiol i ein haelodau ac i economïau Iwerddon a Chymru.

“Rydym nawr yn teithio gannoedd o filltiroedd yn ychwanegol, yn talu costau fferi uwch oherwydd diffyg llwybrau posib… cost masnachol anferthol i’r diwydiant na ddaw i’r amlwg tan ar ôl Nadolig.

“Y DU o hyd yw partner masnachol mwyaf Iwerddon… cyn y broblem yng Nghaergybi roedd 1,000 o lorïau y dydd rhwng Iwerddon a’r DU. Rhaid ceisio cael llwybrau amgen i gyrraedd y ffigwr yna eto.”

Source link

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Scroll to Top