‘Pob dydd yn wahanol’ i fyfyriwr, 20, sy’n byw gyda Covid hir

‘Pob dydd yn wahanol’ i fyfyriwr, 20, sy’n byw gyda Covid hir

Er i Bethan gael cymorth i gleifion Covid hir, roedd y driniaeth i blant a phobl ifanc yn ei siomi.

“Oedden nhw wedi dangos i fi’r prosesau galla’i ddefnyddio i ‘neud bywyd fi’n well,” meddai. “Roedd yr help wedi rhedeg allan.

“Roedd yn siomedig mewn ffordd oherwydd yn fy mhen o’n i’n meddwl y byddai’n nhw yma i fy nghefnogi yn y tymor hir.

“Rwy’n meddwl mai’r tro diwethaf i mi gael sgwrs gyda nhw oedd fy mlwyddyn olaf yn chweched dosbarth felly byddai hynny wedi bod yn gynnar yn 2023.”

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg eu bod nhw’n flin bod Bethan yn teimlo nad oedd y cymorth ar gael.

Ychwanegodd y bwrdd y byddai Bethan yn gymwys am gymorth fel oedolyn, fel rhan o’r rhaglen adferiad sydd ar gael.

Source link

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Scroll to Top