Cafodd yr adroddiad interim 20 tudalen ei gyhoeddi gan y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffordd (RAIB) ddydd Mercher.
Datgelodd fod y trên gyda’r system ddiogelwch a fethodd – yn teithio ar tua 24mya, pan fu mewn gwrthdrawiad â thrên arall oedd yn teithio ar gyflymder o tua 6mya.
Yn flaenorol roedd RAIB wedi dweud fod system awtomataidd, sy’n helpu olwynion trenau i afael mewn traciau, wedi methu.
Dywedon nhw eu bod wedi archwilio’r system, sydd wedi’i gosod ar y trên sy’n mynd i Aberystwyth.
Mae’n system sy’n chwistrellu tywod yn awtomatig trwy bibellau pan fydd olwyn yn cael ei chanfod i fod yn llithro yn ystod brecio – mewn ymgais i gynhyrchu mwy o ffrithiant.
Mae’r adroddiad yn dweud fod y pibellau hyn wedi’u blocio, a fyddai wedi “atal y tywod rhag cael ei daflu allan” ohonynt.
Cafodd dau blât sy’n mesur cyfradd llif y tywod eu gosod yn anghywir, gyda’r ddau ben i waered.
Cafodd dau nam trydanol eu darganfod hefyd, meddai’r adroddiad.