Mae menyw sy’n byw â pharlys yr ymennydd (cerebral palsy) wedi dweud bod eisiau i bobl feddwl fod y cyflwr yn “normal”, ac yn galw ar bobl i beidio â’i “underestimato“.
Dywedodd Emily Roberts, 27 o Bontarddulais, bod angen newid agweddau at y cyflwr, a hithau’n fis codi ymwybyddiaeth o barlys yr ymennydd.
“Weithiau mae pobl yn teimlo yn sori drostai ac yn dweud ‘Oh bless! Buasen i methu copo!‘,” meddai wrth siarad â Cymru Fyw.
“Mae rhywbeth fel hyn yn gwneud fi i deimlo yn passionate am newid barn pobl.
“Mae ‘na bobl yn gweud bod CP [cerebral palsy] yn ofnadwy, bod rhaid i ti roi give up efo bywyd ond na!
“Dwi’n teimlo’n lwcus i allu dangos i bobl a dweud edrych arna i ac edrych be dwi’n gallu gwneud!”
Mae elusen Cerebral Palsy Cymru yn dweud eu bod yn wynebu cyfnod anodd, ond yn annog pobl i ddod atyn nhw am gymorth.