‘Newid neu farw’: Arweinwyr yn trafod dyfodol capeli

‘Newid neu farw’: Arweinwyr yn trafod dyfodol capeli

Bellach nid yw cau capeli mawr a fu yn ddylanwadol iawn yn eu bröydd yn ddigwyddiad dieithr.

Mae trawsnewid capel Salem Pwllheli yn weithdy crochenydd a chartref wedi bod yn gyfres deledu boblogaidd.

O Gaergybi i Gaerdydd, yr un yw’r stori – cau capeli a chyflwr yr adeiladau yn gwaethygu.

Mae’r ystadegau yn adrodd y stori’n glir. Dros yr 20 mlynedd ddiwethaf, mae aelodaeth y Presbyteriaid wedi gostwng o 30,000 i 13,000.

Rhwng 2005 a 2017, roedd y gostyngiad blynyddol mewn aelodaeth yn 5% ond erbyn 2022 fe wnaeth y gostyngiad gynyddu i 12%.

Mae cau eglwysi wedi cyflymu yn enwedig ers Covid. Yr un yw’r stori yn yr enwadau eraill hefyd, a’r un yw’r argyfwng adeiladau.

Source link

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Scroll to Top