Bydd cyn-arweinydd Reform UK yng Nghymru yn wynebu achos llys yn 2026 wedi iddo gael ei gyhuddo o droseddau llwgrwobrwyo.
Mae Nathan Gill, 51, o Langefni, Ynys Môn, wedi ei gyhuddo o nifer o droseddau llwgrwobrwyo gan Heddlu’r Met am dderbyn arian yn gyfnewid am wneud datganiadau a fyddai o fudd i Rwsia yn Senedd Ewrop.
Mae wedi ei gyhuddo o un cyhuddiad o gynllwynio i gyflawni llwgrwobrwyo o dan Ddeddf Cyfraith Droseddol 1977, ac o wyth achos o lwgrwobrwyo o dan Ddeddf Llwgrwobrwyo 2010.
Roedd Mr Gill yn arweinydd UKIP Cymru am gyfnod, ac fe gafodd ei ethol yn Aelod Cynulliad dros Ogledd Cymru yn 2016.
Dywedodd Mrs Ustus Cheema-Grubb y byddai’r achos yn dechrau ar 29 Mehefin 2026.