Mae cwmnïau preifat sy’n delio â’r broblem hefyd yn dweud bod mwy o lygod mawr i’w gweld.
Dywedodd Dalton Pest Services bod “cynnydd enfawr mewn galwadau” am lygod.
Yn ôl un arall, Gareth Davies o Pest and Property Solutions, nid yw wedi gweld sefyllfa mor wael yn ei 36 o flynyddoedd yn y diwydiant.
“Mae gyda ni broblem sbwriel enfawr, yn sicr yng Nghaerdydd,” meddai.
“Mae pobl yn taflu sbwriel i wrychoedd, taflu pethau o geir, bwyd wedi ei hanner fwyta.”
Dywedodd bod llygod mawr a gwylanod yn dod o hyd i fwyd mewn bagiau bin ar y strydoedd, a bod tymereddau uwch o ganlyniad i newid hinsawdd yn golygu bod llygod mawr yn gallu “bridio gydol y flwyddyn” bellach.
Rhybuddiodd hefyd yn erbyn rhai mathau o wenwyn sy’n cael eu gwerthu i’r cyhoedd, gan ddweud nad ydynt yn ddigon cryf.