Mae cwest i farwolaeth merch bedair oed o Sir Gaerfyrddin wedi cael ei agor a’i ohirio.
Dywedodd swyddog y crwner, Hayley Rogers wrth y cwest yn neuadd y dref Llanelli ddydd Llun bod yr heddlu wedi derbyn galwad gan y gwasanaeth ambiwlans am 17:59 ddydd Iau, 20 Chwefror.
Roeddwn nhw’n galw am gymorth i ferch bedair oed oedd yn cael ataliad ar y galon.
Cafodd y ferch – Cali Marged Lewis-Mclernon – ei darganfod yn anymwybodol mewn bath yn ei chartref yn Llangynnwr.
Fe gafodd ei chludo i Ysbyty Glangwili ond er gwaethaf ymdrechion tîm meddygol yno i’w hachub, bu farw am 02:45 y diwrnod canlynol.