Mark Williams i chwarae yn rownd derfynol Pencampwriaeth Snwcer y Byd

Mark Williams i chwarae yn rownd derfynol Pencampwriaeth Snwcer y Byd

Mae’r Cymro, Mark Williams, wedi sicrhau ei le yn rownd derfynol Pencampwriaeth Snwcer y Byd ar ôl trechu Judd Trump o 17 ffrâm i 14.

Brynhawn Sul fe fydd yn wynebu Zhao Xintong o China – y rownd derfynol gyntaf i gynnwys dau chwaraewr llaw chwith.

Mark Williams, sydd bellach yn 50, yw’r chwaraewr hynaf erioed i gyrraedd y rownd derfynol. Mae e wedi ennill y bencampwriaeth deirgwaith.

Roedd Williams ar ei hôl hi o 7-3 yn gynnar yn y rownd gyn-derfynol ddydd Gwener, ac yna wedi ail wynt roedd y gêm yn gyfartal 8-8 ond wedyn roedd Williams ar y blaen – er i Trump ddod yn agos droeon.

“Mark oedd y chwaraewr mwyaf cyson gydol y gêm ac yn y diwedd roedd wir yn haeddu’r fuddugoliaeth,” meddai Trump.

“Rhaid i mi godi’n het iddo ac fe fyddaf yn ceisio gwella fy mherfformiad erbyn y flwyddyn nesaf.”

Source link

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Scroll to Top