Yn ei drowsus uchel a’i fresys, mae Jack Amblin yn edrych fel drymiwr band o’r 1930au. Mae ei gasgliad o gitiau drymiau sy’n dyddio o’r 20au a’r 40au yn cwblhau’r edrychiad a’r naws mae’n ceisio ei gyfleu ar y llwyfan, meddai.
“Mae’n teimlo’n gywir pryd ti’n chwarae hen ddrymiau; ti’n trio bod mor authentic â ti’n gallu. Pan ti’n perfformio mewn trowsus uchel a bresys fel hyn, mae’n teimlo’n wahanol; dyna sut oedd pobl y 30au yn teimlo tu ôl i’r drymiau yna.
“Dwi’n hoffi cymryd pobl nôl mewn amser gyda fi.”
Mae Jack yn ceisio mynd â’r gynulleidfa yn ôl i ‘oes euraidd’ cerddoriaeth degawdau cynnar yr 20fed ganrif; cyfnod artistiaid fel yr arloeswr drymiau Gene Krupa o’r 30au, a ganodd y gân a ysbrydolodd Jack i ddysgu’r drymiau gyntaf, meddai, sef Sing Sing Sing.
“Dwi’n dwlu ar chwarae hen jazz neu rock ‘n’ roll cynnar. Pan ti’n dweud ‘jazz’ mae pobl yn meddwl am Miles Davies o’r 70au, oedd yn eitha highbrow. Dim hwnna ydi’r jazz dwi’n hoffi.
“Yn yr 1910au, 20au, 30au, dyma oedd y gerddoriaeth bop rili; nhw oedd rock stars eu dydd.”