“Mae ‘na gymaint o gystadleuaeth erbyn hyn, mae’r sector manwerthu… mae’r gystadleuaeth am y cyflog, y telerau a’r oriau gwaith ochr yn ochr â’r diwydiant – mae ‘na elfen o’r diwydiant lletygarwch sydd yn dal ychydig bach yn dymhorol, mae [pobl] yn meddwl fod yna sicrwydd swydd yn y diwydiant manwerthu fwy nag sydd yn y diwydiant lletygarwch,” medd Nia Rhys Jones.
“Felly mae’n rhaid i nifer o asiantaethau a phobl ddod at ei gilydd ‘dw i’n meddwl.
“Dydi o ddim yn mynd i lwyddo efo un sector yn ei arwain… mae gofyn i’r llywodraeth, diwydiant, cynghorau lleol, pawb ddod at ei gilydd i drio cael rhyw fath o ryw strategaeth mewn lle i symud y peth ymlaen.”
Mae’r heriau wedi gwaethygu yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn ôl Nia Rhys Jones.
“Mae wedi mynd yn waeth dros y bedair bum mlynedd ddiwethaf ‘ma.
“Oedd llefydd ddim yn cau fel mae nhw rŵan, mae ‘na rai busnesau sydd wedi cau am byth.
“‘Da ni’n gweld llai o lefydd ar agor drwy’r wythnos i ymwelwyr a gwasanaeth wedi’i gyfyngu felly mae hyn yn broblem,” meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae cymaint o amrywiaeth o opsiynau gyrfa ddiddorol a gwerth chweil o fewn y sector twristiaeth a lletygarwch sy’n cynnig hyblygrwydd yn ogystal â datblygiad gyrfa.
“Rydym yn gweithio’n agos gyda’r diwydiant i helpu busnesau i recriwtio a chadw staff, cael mynediad at gyllid ar gyfer hyfforddiant ac i sicrhau mwy o swyddi parhaol o safon drwy gydol y flwyddyn.
“Rydym yn buddsoddi £78m yn ychwanegol i ddarparu’r chweched flwyddyn yn olynol o gymorth i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch gyda’u biliau ardrethi annomestig.”