Mae eleni yn nodi 70 o flynyddoedd ers i theatr amatur Theatr Fach Llangefni agor ei drysau am y tro cyntaf.
Mae’r theatr, oedd yn arfer bod yn ystablau, wedi bod yn gartref i Gymdeithas Ddrama Llangefni ers yr 1950au.
Gweledigaeth gŵr o dde Cymru oedd Theatr Fach Llangefni, sef Francis George Fisher, gŵr di-Gymraeg o’r Bargoed aeth ati i ddysgu’r iaith.
Ar 3 Mai, 1955, aeth criw o wirfoddolwyr ati i drawsnewid yr adeilad, ac mae’r theatr wedi llwyfannu nifer o ddramâu a chynyrchiadau amrywiol bob blwyddyn ers hynny.
I nodi’r pen-blwydd arbennig, Cymru Fyw fu’n tyrchu’r archif am luniau o gynyrchiadau Theatr Fach Llangefni.