‘Hurt’ nad oes digwyddiadau swyddogol i gofio’r pandemig

‘Hurt’ nad oes digwyddiadau swyddogol i gofio’r pandemig

Cafodd y mater ei godi yn y Senedd ddydd Mawrth gan Mark Isherwood AS, wnaeth alw am ddatganiad gan y llywodraeth i egluro’r penderfyniad i beidio â chynnal digwyddiad swyddogol.

“Mae’n ddigon drwg nad yw’r teuluoedd yma wedi cael Ymchwiliad Covid yn benodol i Gymru, a’u bod bron yn anweledig yn yr Ymchwiliad Prydeinig – ond mae’r penderfyniad i anwybyddu’r diwrnod hwn wir yn sarhau’r rhai fu farw a’u teuluoedd,” meddai.

Wrth ymateb, dywedodd Jane Hutt yr Ysgrifennydd dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, y byddai hi yn mynd i’r goedlan goffa yng Nghaerffili ac y byddai adeiladau’r llywodraeth yng Nghaerdydd yn cael eu goleuo i nodi’r achlysur.

“Mae’n benwythnos pwysig, mae’n ddiwrnod pwysig, mae’n amser pwysig. Yn amlwg fe fydd yn gyfle i ni gyd fyfyrio yn unigol, ond hefyd o safbwynt y llywodraeth – ac rydyn yn cydnabod pwysigrwydd, a pha mor anodd ydi’r cyfnod yma i’r teuluoedd.”

Ond yn ôl Ms Marsh-Rees, mae angen i’r llywodraeth wneud mwy ar raddfa genedlaethol.

“Mae pobl eisiau coffau, ond does dim pwynt cael diwrnod o’r fath os nad oes cyfle i ddod ynghyd i gofio gyda’n gilydd. Mae hi mor bwysig i ni dreulio amser yn cofio’r rhai fu farw – a gawn ni plîs un diwrnod, un munud i gofio ein hanwyliaid?”

Source link

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Scroll to Top