Ond roedd beirniadaeth heddiw eto gan undeb yr UCU wedi i Gyngor y Brifysgol gadarnhau cynlluniau’r wythnos hon i ddatblygu campws yn Kazakstan.
Dywedodd Sion Llywelyn Jones sydd yn cynrychioli’r undeb: “‘Da ni’n teimlo eu bod nhw’n rhuthro fewn i hyn. Maen nhw wedi mynd amdani yn y misoedd diwethaf.
“Poeni ydan ni hefyd am drac record hawliau dynol Kazakstan.
“Dwi’n meddwl bod digon o broblemau o fewn Caerdydd ar hyn o bryd. Dwi’m yn dallt pam bod nhw wedyn yn penderfynu trio neud pethau yn Kazakstan?
“Byddai’n werth iddyn nhw ganolbwyntio ar Gaerdydd ar hyn o bryd.”
Dywedodd llefarydd ar ran y Brifysgol nad ydyn nhw wedi buddsoddi unrhyw arian cyfalaf yn y campws yn Kazakstan a’u bod nhw wedi ymchwilio yn drylwyr i’r cynllun sydd yn cynnig cyfle i ehangu’n rhyngwladol.
Er eu bod nhw’n cydnabod gwahaniaethau mewn gwerthoedd, maen nhw’n hyderus y gallan nhw ddatblygu rhaglen yno sydd yn unol â’u gwerthoedd.