Ond mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Mawrth, dywedodd Gŵyl Lên Llandeilo: “Ar ôl ystyried yn ofalus, mae ymddiriedolwyr Gŵyl Len Llandeilo wedi penderfynu na fydd y digwyddiad gyda Jonathan Edwards yn cymryd lle.
“Fel Gŵyl, mi rydym wedi ymrwymo i ddarparu gofod cynhwysol a chroesawgar i’r rhai sydd yn cymeryd rhan a’r rheiny sydd yn mynychu’r Ŵyl.
“Roedd y digwyddiad yma wedi ei ddarparu’n wreiddiol fel trafodaeth am atgofion gwleidyddol.
“Fodd bynnag, yn dilyn adolygiad pellach, teimlwn nad yw natur a chynnwys y llyfr yn cyd-fynd gyda gwerthoedd ac egwyddorion yr Ŵyl.
“Un o’n nodweddion pennaf yw bod yr Ŵyl yn parhau i fod yn le ble mae pob unigolyn yn derbyn – ac yn haeddu parch.
“Fe benderfynon ni fod y perygl o greu annifyrrwch a gofid i rai unigolion gaiff eu trafod yn y llyfr yn rhy arwyddocaol i’w hesgeuluso.
“Rydym wedi’n hymrwymo i gynnal Gŵyl sydd yn gwneud i bob un deimlo’n gynwysedig a’i bod yn ddathliad llenyddol i bawb sydd yn ymwneud â hi.”