Yn ôl bwrdd iechyd Hywel Dda mae ‘na gyfyngiadau pellach yn eu huned gofal dwys yn Ysbyty’r Tywysog Phillip yn Llanelli.
Mae Meinir Williams, dirprwy bennaeth nyrsio yn yr ysbyty, yn annog pobl i gael eu brechlyn ffliw blynyddol er mwyn rheoli nifer yr achosion.
Mewn datganiad, dywedodd bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg: “O heddiw ymlaen (dydd Gwener) rydyn ni’n gofyn i chi wisgo mwgwd wrth i chi gyrraedd er mwyn ceisio atal achosion o’r ffliw.
“Rydyn ni’n gweld cynnydd yn nifer yr achosion o’r ffliw yn ein hysbytai ac mae gwisgo mwgwd yn ffordd effeithiol o warchod eich hunain.
“Os ydi rhywun yn dod â ffliw i ysbyty, mae’n gallu bod yn fygythiad gwirioneddol i iechyd cleifion ac achosi salwch ymhlith ein staff, felly rydyn ni angen gwneud popeth allwn ni i gadw’r feirws draw.”
Mae bwrdd iechyd Aneurin Bevan wedi cyflwyno rheolau tebyg “er mwyn gwarchod cleifion bregus”.