‘Gwarth’ byddai cau cwrs ieithoedd modern Prifysgol Caerdydd

‘Gwarth’ byddai cau cwrs ieithoedd modern Prifysgol Caerdydd

Prifysgol Caerdydd yw’r darparwr mwyaf o gyrsiau ieithoedd modern israddedig yng Nghymru.

Mae meddwl y gallai’r adran gau yn poeni myfyrwyr presennol a chyn-fyfyrwyr fel ei gilydd.

Dywedodd Lucie Williams, myfyriwr Ffrangeg ac Eidaleg sydd yn ei phedwaredd flwyddyn: “Dwi’n meddwl bod cwrs fel hyn yn ‘neud i bobl ddeall diwylliannau gwahanol y byd, ieithoedd gwahanol y byd.

“‘Da ni angen deall ein gilydd i allu gweithio efo’n gilydd yn fyd eang a mae Cymru – wel Caerdydd – yn dweud wrthan ni bod dwyieithrwydd neu bod un iaith yn ddigon, a dydi o ddim.”

Yn ôl Laura Jones sy’n gyfieithydd Ffrangeg a Sbaeneg fu’n astudio ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae’r ysgol ieithoedd fodern yng Nghaerdydd yn ‘neud lot yng Nghaerdydd, ar wahân i ddysgu ieithoedd i fyfyrwyr.

“Ma’ nhw’n cynnig cyrsiau ieithoedd yn y nos i oedolion.

“Ma’ nhw’n cynnig saith iaith i gyd, gan gynnwys Portiwgaleg a Siapaneaidd, a petaen nhw’n cau’r adran fydde’r ieithoedd yna’n diflannu o Gymru a byddai’n siom enfawr.”

Source link

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Scroll to Top