15 oed oedd Scott ar ddiwrnod y gêm yn rownd gyn-derfynol Cwpan yr FA rhwng Lerpwl a Nottingham Forest yn Sheffield a arweiniodd at y trychineb waethaf erioed yn hanes chwaraeon Prydain.
Dywedodd nad yw’n gallu mynd i stadiymau i wylio pêl-droed bellach, a’i fod wedi treulio cyfnod yn camddefnyddio cyffuriau er mwyn “ymdopi”.
Fe gafodd help gan Gymdeithas Cefnogi Goroeswyr Hillsborough (HSA), grŵp sydd wedi achub ei fywyd, meddai.
“Alla i gofio fy ngalwad ffon gynta’ hefo Cymdeithas Cefnogi Goroeswyr Hillsborough ar ddydd Sul, tua dwy flynedd yn ôl,” meddai Scott.
Roedd Scott wedi anfon neges atynt “yn dweud fy mod i’n barod i siarad ar ôl yr holl flynyddoedd hyn”.
“Roeddwn i’n gwybod, pe na bawn i wedi estyn allan y diwrnod hwnnw, na fyddwn i wedi cyrraedd bore Llun.”