Sut brofiad oedd perfformio yn yr ŵyl?
Oedd e’n fraint ac o’n i’n falch iawn i fynd mas ‘na.
Mae’n ŵyl anhygoel ac unigryw, dathliad mawr o ddiwylliant Naga a gwahanol llwythi Naga i gyd yn dangos dawnsfeydd traddodiadol. Mae hwnna yn brofiad; chi ddim wedi gweld hwnna unrhyw le arall yn y byd.
Ochr yn ochr â hwnna mae bandiau yn perfformio yn fyw. Mae lot o bobl Naga yn mynd yno – mae’n denu twristiaid ond mae lot o bobl lleol yn mynd hefyd. Mae e’n gornel o India dyw lot o bobl ddim yn gyfarwydd gyda felly mae’n gyfle i ddarganfod yr ardal a’r diwylliant.
Mae cysylltiadau wedi bod gyda fi gyda’r gogledd-ddwyrain ers sbel (gwnaeth Gareth ddoethuriaeth gyda rhan ohono yn canolbwyntio ar ymchwil ymarferol gydag artistiaid Khasi).
Dwi wedi bod i Nagaland unwaith o’r blaen ac mi oedd yn gyfle da i fynd mas eto.
I fi mae’n bwysig i drio cynnal y berthynas sy’ gyda fi gyda’r Khasi yn Shillong (ardal yng ngogledd-ddwyrain India) i drio ‘neud cymaint â ni’n gallu i helpu perfformio yn India a rhannu beth ni wedi bod yn gwneud gyda diwylliannau eraill yn yr ardal.
Felly roedd yn gyfle anhygoel i wneud hynny mewn gŵyl mor fawr ac hefyd bod fi yn cael y cyfle i recordio albwm yr un pryd.