Fe wnaeth Clwb Ifor Bach roi’r gorau i ddefnyddio unrhyw wydr ddegawd yn ôl.
“Mae’n ‘neud pethe yn llawer haws ac yn sicrhau nad yw pobl yn cael niwed o wydr,” meddai Conor Isak, un o reolwyr y clwb.
“Mae hefyd yn haws o ran y glanhau ond y prif beth yw sicrhau nad oes yr un person yn cael niwed o wydr.
“Mae pobl meddw yn gallu cwympo gwydrau ar y llawr ac felly o ddefnyddio plastig fe allwn i fod yn sicr nad oes gwydr yn unlle.
“Ry’n ni hefyd yn defnyddio poteli plastig ac yn checo nad oes gwydr yn dod mewn i’r adeilad drwy siecio bagiau.
“Mae’r plastig yn polycarb ac mae’r cwpanau yn gallu cael eu hailddefnyddio – felly ni ddim yn creu gwastraff.”
Ychwanegodd Emily Browne: “Pe bai pob tafarn a chlwb yn gwneud hyn fe fyddai’n cael effaith anferth ar ddiogelwch cyhoeddus.”